Psalms 35

Gweddi am help

Salm Dafydd.

1O Arglwydd, delia gyda'r rhai sy'n ymladd yn fy erbyn!
Ymosod ar y rhai sy'n ymosod arna i!
2Coda dy darian fach a'r un fawr,
a tyrd yma i'm helpu i!
3Defnyddia dy waywffon a dy bicell
yn erbyn y rhai sydd ar fy ôl i.
Gad i mi dy glywed di'n dweud, “Gwna i dy achub di!”
4Rhwystra'r rhai sydd am fy lladd i;
coda gywilydd arnyn nhw!
Gwna i'r rhai sydd eisiau gwneud niwed i mi
droi'n ôl mewn dychryn.
5Gwna nhw fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt
wrth i angel yr Arglwydd ymosod arnyn nhw!
6Pan fydd angel yr Arglwydd yn mynd ar eu holau,
gwna eu llwybr nhw yn dywyll ac yn llithrig!
7Roedden nhw wedi gosod rhwyd i'm dal i,
a hynny am ddim rheswm!
Roedden nhw wedi cloddio twll i mi ddisgyn iddo.
8Gwna i drychineb annisgwyl ddod ar eu traws nhw!
Gad iddyn nhw gael eu dal yn eu rhwyd eu hunain!
Gwna iddyn nhw ddisgyn i lawr i dwll dinistr!
9Bydda i, wedyn, yn gallu moli'r Arglwydd,
a llawenhau am ei fod wedi fy achub i!
10Bydd y cwbl ohona i'n datgan,
“Pwy sy'n debyg i ti, Arglwydd?
Ti'n achub y gwan rhag un sy'n rhy gryf iddo –
achub y gwan a'r diamddiffyn
rhag yr un sydd am ddwyn oddi arno.”
11Mae tystion celwyddog yn codi
ac yn fy nghyhuddo i ar gam.
12Maen nhw'n talu drwg i mi am yr holl ddaioni wnes i!
Maen nhw eisiau gweld diwedd arna i.
13Pan oedden nhw'n sâl roeddwn i'n gwisgo sachliain,
ac yn mynd heb fwyd yn fwriadol.
Roeddwn i'n gweddïo drostyn nhw yn ddi-baid.
14Roeddwn i'n cerdded o gwmpas yn galaru
fel y byddwn i'n galaru dros ffrind neu frawd.
Roeddwn i'n dal fy mhen yn isel fel un yn galaru ar ôl ei fam.
15Ond roedden nhw wrth eu boddau pan wnes i faglu!
Dyma nhw'n dod at ei gilydd yn fy erbyn – wn i ddim pam –
roedden nhw'n llarpio fel anifeiliaid gwylltion.
16Dynion annuwiol yn gwawdio am sbort,
ac yn ceisio dangos eu dannedd!
17O Arglwydd, am faint wyt ti'n mynd i sefyll yna'n gwylio'r cwbl?
Achub fi wrth iddyn nhw ymosod arna i;
cadw fi'n saff oddi wrth y llewod ifanc!
18Wedyn bydda i'n diolch i ti yn y gynulleidfa fawr!
Bydda i'n dy foli di o flaen tyrfa enfawr o bobl!
19Paid gadael i'r rhai sy'n elynion heb reswm lawenhau!
Nac i'r rhai sy'n fy nghasáu i heb achos wincio ar ei gilydd.
20Dŷn nhw ddim am wneud lles i neb,
dim ond cynllwynio yn eu herbyn,
a thwyllo pobl ddiniwed.
21A dyma nhw'n barod i'm llyncu innau,
“Aha! dŷn ni wedi dy ddal di!” medden nhw.
22O Arglwydd, rwyt ti wedi gweld y cwbl!
Felly paid cadw draw! Tyrd yma!
23Symud! Deffra! Amddiffyn fi!
Fy Nuw a'm Harglwydd, ymladd drosta i!
24Achub fy ngham, O Arglwydd fy Nuw,
am dy fod ti'n gyfiawn.
Paid gadael iddyn nhw ddal ati i wneud sbort.
25Paid gadael iddyn nhw feddwl,
“Aha, dyma'n union beth roedden ni eisiau!”
Paid gadael iddyn nhw ddweud,
“Dŷn ni wedi ei ddinistrio!”
26Rhwystra'r rhai sydd am wneud niwed i mi;
coda gywilydd arnyn nhw!
Cymer y rhai sydd wedi bod yn gwawdio mor falch
a gwisga nhw gyda chywilydd ac embaras!
27Ond gad i'r rhai sydd am i ti achub fy ngham
weiddi'n llawen!
Gad iddyn nhw allu dweud bob amser,
“Yr Arglwydd sy'n rheoli!
Mae am weld ei was yn llwyddo.”
28Wedyn bydda i'n dweud wrth bawb dy fod ti'n gwneud beth sy'n iawn.
Bydda i'n canu mawl i ti drwy'r dydd.
Copyright information for CYM